Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 19 Mawrth 2024
Amser:
09.00 -
09.21
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
David Rees AS (Cadeirydd) Heledd Fychan AS Lesley Griffiths AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Croesawodd y Dirprwy Lywydd yr aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan y Llywydd.
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
Dydd Mawrth
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn:
· Datganiad gan y Prif Weinidog: Datganiad Ymddiswyddo (30 munud)
·
Datganiad gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd: Y Rhaglen Buddsoddi ar gyfer Llifogydd 2024/25 (30
munud) - i'w gyhoeddi
fel datganiad ysgrifenedig
·
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog
Gwasanaethau Cymdeithasol: Ailgydbwyso gofal a chymorth (30
munud)- i'w gyhoeddi
fel datganiad ysgrifenedig
· Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar yr eitemau canlynol gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (5 munud):
o Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel) - cynnig 1
o Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel) - cynnig 2
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.50pm
Dywedodd y Dirprwy Lywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei fod yn bwriadu galw ar arweinwyr y pleidiau a chynrychiolydd o’r grŵp Llafur i siarad yn ystod datganiad ymddiswyddo’r Prif Weinidog, ac y bydd y Prif Weinidog yn cael ei alw i ymateb unwaith, yn dilyn y cyfraniadau hynny.
Mynegodd Heledd Fychan siom ar ran grŵp Plaid Cymru y bydd y datganiad ar Ailgydbwyso gofal a chymorth yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig bellach.
Dydd Mercher
Dywedodd y Dirprwy Lywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd yr eitem a ganlyn yn cael ei hychwanegu at agenda dydd Mercher fel yr eitem gyntaf o fusnes, unwaith y bydd hysbysiad yn dod i law bod Ei Fawrhydi wedi derbyn ymddiswyddiad y Prif Weinidog: Enwebu’r Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8
Dywedodd y Dirprwy Lywydd wrth y Rheolwyr Busnes fod ceisiadau wedi'u cymeradwyo i gynnal gweithgareddau cyfryngau amrywiol yn y Siambr ac o'i chwmpas dros y ddau ddiwrnod nesaf.
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 16 Ebrill 2024
·
Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion (30
munud) - wedi’i
ohirio tan 30 Ebrill
Dydd Mawrth 23 Ebrill 2024
· Rheoliadau Defnydd Mandadol o Deledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai (Cymru) 2024 (15 munud)
Nododd y Trefnydd fod Cyfnod 3 o Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) wedi’i drefnu ar gyfer 30 Ebrill ac mai ychydig iawn o fusnes arall y Llywodraeth a fydd yn cael ei drefnu ar gyfer y diwrnod hwnnw oherwydd hyd tebygol y trafodion hynny.
Cytunwyd ar yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 1 Mai 2024 -
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau: Gaeaf Cynhesach P-06-1326 Dylai'r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl fer (30 munud)
Bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried ymateb gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a chytunodd i’w gais i bennu 26 Gorffennaf 2024 fel terfyn amser ar gyfer Cyfnod 1. Cytunodd y Pwyllgor hefyd ar y dyddiadau eraill ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil.
Dywedodd y Trefnydd nad yw’r Llywodraeth o’r farn bod y newid hwn yn gosod cynsail ar gyfer amserlenni biliau eraill.
Nododd Pwyllgor Busnes bapur ar y terfynau amser cyflwyno ar gyfer gwelliannau, a oedd yn cynnwys ffocws ar y profiad diweddar o ran Bil Seilwaith (Cymru). Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai swyddogion gyflwyno papur arall yn cynnwys opsiynau posibl ar gyfer ymestyn y bwlch rhwng cyhoeddi grwpiau ar gyfer Cyfnod 2 a Chyfnod 3 a'r trafodion hynny, cyn adolygu'r broses graffu ar gyfer Biliau a fwriedir yn ddiweddarach yn ystod y Senedd hon.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atogol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer craffu, gyda dyddiad cau o 29 Ebrill 2024 ar gyfer cyflwyno adroddiad.
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a chytunodd i ymateb i’r Pwyllgor i dderbyn Argymhelliad 3 yn ei adroddiad ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliadau a Rhydd-ddaliadau.
Trafododd y Pwyllgor Busnes gais y Pwyllgor i gyfarfod ddydd Gwener 26 Ebrill, neu ddydd Gwener arall yn ystod y tymor nesaf, yn dibynnu ar argaeledd y Prif Weinidog newydd, i graffu ar y Prif Weinidog newydd, a chytunodd i’r cais.
Nododd Heledd Fychan ei siom bod cyfarfod yr wythnos hon yn cael ei ganslo ar fyr rybudd o ystyried bod yr amserlen ar gyfer newid Prif Weinidog wedi bod yn hysbys ers peth amser.